
Swyddogion trên bach yr Wyddfa'n 'gwrthod cludo' ci ymwelwyr oedd wedi ei anafu

Bu'n rhaid i gwpl o Loegr gario eu ci oedd wedi ei anafu i lawr llethrau'r Wyddfa ar ôl i swyddogion rheilffordd y mynydd wrthod eu cludo ar y trên.
Roedd yn rhaid i Danny Pyatt, 28, a Justyna Popera, 31, gerdded pedwar milltir i lawr yr Wyddfa yn cario eu ci 70 pwys ar ôl iddi ddioddef anaf ar gopa’r mynydd.
Fe gymrodd y daith i lawr bum awr i’r cwpl a’r ci.

Dywedodd staff Reilffordd yr Wyddfa, sydd ond yn caniatáu cŵn cymorth cofrestredig ar drenau, bod dim lle ar y trên ar y pryd.
Yn ôl Mr Pyatt fe wnaeth “ymbil " ar y staff i helpu.
“Roedden ni wedi dweud ein bod mewn trwbl go iawn, ond doedden nhw ddim i weld yn malio dim,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Rheilffordd yr Wyddfa: “Roedd y trên yn llawn. Fel sy’n gywir, fe gysylltodd ein tîm â’r gwasanaeth brys achub mynydd a’u cynorthwyodd ar unwaith gyda’r mater.”
Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis ni dderbyniwyd galwad o’r fath.
Rhagor yma.