
Yr efeilliaid o Grymych sy'n brwydro am aur yng Ngemau'r Gymanwlad
Ymhlith rhai o obeithion gorau Cymru am fedal yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham eleni mae efeilliaid o Grymych, Sir Benfro – y bocswyr Ioan a Garan Croft.
Dechreuodd y brodyr 21 oed focsio gyda'i gilydd yng Nghlwb Bocsio Aberteifi yn wyth oed.
Yn gynnar yn eu gyrfa, penderfynodd y bechgyn focsio mewn dosbarthiadau pwysau gwahanol er mwyn osgoi paffio yn erbyn ei gilydd.
Ers hynny, mae'r brodyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli tîm Cymru a thîm Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ennill medalau arian ym Mhencampwriaethau Bocsio Ewropeaidd dan 22 oed yn Croatia, ym mis Mawrth.
Mae'r ddau hefyd wedi profi eu talent wrth symud ymlaen i baffio ar lefel dynion am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Bocsio Amatur Ewrop yn Armenia ym mis Mai.
Daeth Ioan, sydd yn bocsio yn y dosbarth pwysau welter, adref gyda medal efydd tra enillodd Garan, sydd yn cystadlu yn y dosbarth canol ysgafn, fedal arian.

Wrth siarad ar raglen arbennig ar S4C cyn Gemau'r Gymanwlad, dywedodd y brodyr ei bod yn wych bod y ddau ohonyn nhw yn mynd i Birmingham eleni.
"I fod yn deg, fyddwn i probably yn bocsio yn light middleweight os bydda dim efaill ‘da fi!" Dywedodd Garan.
"Achos y pwysau gwahanol, fyddwn ni byth yn dod ar draws ein gilydd yn y ring bocsio. Ac mae’n galluogi’r ddau ohonom ni i fynd i Gemau’r Gymanwlad."
Ychwanegodd Ioan "Da ni’n gwneud popeth gyda’n gilydd. Ymarfer, teithio, byw, bwyta."
"Yr unig beth ni heb wneud yw bocsio’n gystadleuol yn erbyn ein gilydd. Mae hynny’n un peth fydd byth yn digwydd achos fydd mam yn siŵr o byth siarad ‘da ni eto."
Mae tîm bocsio Cymru yn gobeithio adeiladu ar ei lwyddiant yn y Gemau Gymanwlad diwethaf ar yr Arfordir Aur. Yn 2018, enillodd bocswyr Cymru bedair medal gan orffen yn bedwerydd yn nhabl y medalau bocsio.

Mae Ioan a Garan yn gobeithio bod yn rhan o dîm sydd yn efelychu'r llwyddiant mwyaf diweddar.
"Mae rhywbeth tu mewn i ni sydd eisiau llwyddo," meddai Garan.
"Mae meddwl am fynd gartre’ heb medal neu heb ennill, heb dim byd, yn teimlo fel gwastraff amser ac mae hynny’n gwthio chi mlaen i wneud yn dda."
"Bydd clywed yr anthem yn Birmingham yn anhygoel," ychwanegodd Ioan.
"Fi’n cofio gwylio Gemau’r Gymanwlad yn y Gold Coast a pedair mlynedd lawr y lein, dyma ni nawr, ac mae da ni siawns i ddangos i bawb beth ni’n gallu gwneud.
"Mae’r ddau ohonom ni’n ddigon da i ennill yn y gemau, dw i’n meddwl."
Gwyliwch Birmingham 2022: Cymry’r Gemau am 21:30 nos Fawrth ar S4C, neu ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.