Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ferch 'gariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad yn y Rhondda

Wales Online 26/07/2022
Chloe Hayman

Mae teulu merch "brydferth, gariadus" yn ei harddegau a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Chloe Hayman, 17 oed, o ardal Mountain Ash a fu farw yn y gwrthdrawiad un cerbyd yn Brook Row, Fochriw.

Mae teulu Chloe yn dorcalonnus wedi ei marwolaeth ac maen nhw wedi rhyddhau datganiad drwy WalesOnline.

Dywedon nhw: "Ni allwn gredu bod ein merch brydferth gariadus, chwaer garedig ofalgar i dri brawd bach wedi ei chymryd mor ifanc."

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.