Seren Buck's Fizz yn cefnogi Caerdydd i gynnal Eurovision
Mae un o sêr y grŵp Buck's Fizz wedi galw ar Eurovision i ddod i Gaerdydd.
Dywedodd Cheryl Baker wrth BBC Breakfast fore Mawrth y byddai'n gwneud synnwyr i'r gystadleuaeth ddod i "wlad y gân".
Fe enillodd Buck's Fizz Eurovision yn 1981 gyda'u cân Making Your Mind Up.
"Mae angen iddo fynd i ddinas lle mae maes awyr rhyngwladol, lle mae lleoliad sy'n ddigon mawr, lle mae digon o westai," meddai.
"Dwi'n meddwl y byddai'n braf pe bai ddim yn mynd i Lundain, er gan fy mod yn byw yng Nghaint dwi hanner awr o Lundain felly i fi byddai hynny'n berffaith."
Which UK city should host the next Eurovision Song Contest? 🤔🎤✨
— BBC Breakfast (@BBCBreakfast) July 26, 2022
Cheryl Baker from 1981’s winning act Bucks Fizz gives her verdict on #BBCBreakfast 👀https://t.co/v2yMYWIn0m pic.twitter.com/BCNkALZyPs
Daeth cyhoeddiad ddydd Llun y byddai'r BBC yn cynnal Eurovision yn 2023 yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Fe ddaeth Sam Ryder oedd yn cynrychioli'r DU yn ail i Wcráin yn y gystadleuaeth eleni, y safle uchaf ers 1998.