Newyddion S4C

Sunak a Truss yn mynd benben mewn dadl fyw

26/07/2022
Truss Sunak dadl.png

Fe aeth Rishi Sunak a Liz Truss benben efo'i gilydd mewn dadl fyw ar y BBC nos Lun yn yr ymgyrch i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol. 

Roedd sawl pwnc llosg yn ystod y ddadl, gan gynnwys yr economi, Tseina a Boris Johnson.

Yn ôl Pôl Opiniwn Opinium, roedd hi'n agos iawn o ran pwy wnaeth berfformio orau, gyda 39% yn ffafrio Mr Sunak tra bod 38% yn datgan eu cefnogaeth dros Ms Truss.

Dechreuodd y ddadl drwy ffocysu ar yr economi, gyda Mr Sunak yn honni nad oes yna "unrhyw beth Ceidwadol" am bolisi economaidd Ms Truss a byddai ei chynllun yn golygu "na fyddai gan y blaid unrhyw gyfle i ennill yr etholiad nesaf."

Dywedodd Ms Truss nad oedd unrhyw wlad arall yn cynyddu trethi ar hyn o bryd, gan gyhuddo'r cyn-Ganghellor o fod heb gynllun i dyfu'r economi.

Fe wnaeth y ddau hefyd anghytuno am Tseina, gyda'r Gweinidog Tramor yn datgan bod safiad newydd Mr Sunak o ran y wlad wedi ei "ddylanwadu gan y Swyddfa Dramor."

Dywedodd Mr Sunak ei fod wedi cyrraedd sefyllfa lle mai "digon oedd digon" o dan arweinyddiaeth Boris Johnson o ran ymddygiad a'r economi, gan ddatgan hefyd na fyddai'n ei benodi fel aelod o'r cabinet pe bai'n brif weinidog.

Wrth gael ei holi am y rheswm dros beidio ymddiswyddo, dywedodd Ms Truss ei fod allan o ffyddlondeb i Mr Johnson.

Roedd rhai o gefnogwyr mwyaf blaenllaw'r ddau yn datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus yn ystod y ddadl, gan gynnwys Dominic Raab a Nadine Dorries. 

Fe wnaeth Mr Rabb gefnogi polisi economaidd Mr Sunak gan ddweud nad ydy hi'n "Geidwadol nac yn gyfrifol i drosglwyddo biliau heddiw i gardiau credyd ein plant" wrth gyfeirio at bolisi ariannol Ms Truss.

Ar y llaw arall, dywedodd Nadine Dorries na fyddai'r ffaith bod Mr Sunak "yn torri ar draws" ei wrthwynebydd yn ystod y ddadl yn broblem i Ms Truss gan ei bod hi wedi bod yn y "cabinet am amser hir a'i bod hi wedi arfer efo hyn".

Er y ddadl fyw, Ms Truss sy'n parhau fel ffefryn i hawlio'r arweinyddiaeth, a bydd y ddadl nesaf rhwng y ddau ar Sky News ar 4 Awst am 20:00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.