Y ras i Rif 10: ‘Peidiwch anghofio am y Ceidwadwyr Cymreig’

Y ras i Rif 10: ‘Peidiwch anghofio am y Ceidwadwyr Cymreig’
Mae Sam Kurtz, Aelod Ceidwadol yn y Senedd ym Mae Caerdydd wedi galw ar Rishi Sunak a Liz Truss beidio anghofio am y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod eu hymgyrchoedd i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.
“Ein prif neges fydd cofio amdanom ni,” meddai’r aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wrth Newyddion S4C.
“Yn ystod ein cynhadledd lan yn y Drenewydd daethom ni mas 'da dau bolisi newydd sef Gŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, a hefyd Barnett Formula consequential's ynglŷn â HS2 i Gymru.
“Hoffwn i glywed gan yr ymgeiswyr shwt galle nhw sicrhau bod y ddau beth 'na yn dod i ben, a bo' ni yn cael ein clywed ym Mae Caerdydd.”
'Rhaid cydweithio'
Dros yr wythnosau nesaf bydd Rishi Sunak a Liz Truss yn ceisio ennill cefnogaeth aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y swydd.
Bydd tua 160,000 o aelodau’r blaid yn pleidleisio ar-lein neu drwy’r post a disgwylir iddynt dderbyn eu pleidleisiau erbyn 5 Awst, gyda chanlyniad terfynol i’w gyhoeddi ar 5 Medi.
Ychwanegodd Mr Kurtz fod hi’n bwysig cydweithio ar draws y blaid.
“Ma' rhaid cydweithio rhwng y ddwy blaid, y blaid yn San Steffan, y blaid yn Bae Caerdydd, a hefyd y blaid lan yn yr Alban hefyd.”
Mae arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu mai'r Ysgrifennydd Tramor Ms Truss, sydd wedi beirniadu Mr Sunak am godi trethi yn ystod ei gyfnod fel canghellor, yw'r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer yr aelodaeth.
Bydd dwy ddadl ar y teledu yn cael eu cynnal, un gan y BBC ar 25 Gorffennaf, a'r llall gan Sky News ar 4 Awst.