Cyfweliad arbennig Vitali Klitschko: 'Dim cyfaddawdu gyda Rwsia'

Cyfweliad arbennig Vitali Klitschko: 'Dim cyfaddawdu gyda Rwsia'
Yn ôl cyn-bencampwr bocsio’r byd a Maer Kyiv, Vitali Klitschko, ni ddylai Wcráin gyfaddawdu o gwbl gyda Rwsia er mwyn dod â’r rhyfel yn ei wlad i ben.
Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Vitali Klitschko ei fod wedi ei synnu gyda chyflymder milwyr Rwsia wrth gyrraedd Kyiv ym mis Mawrth, gan gyfaddef nad oedd y ddinas wedi paratoi ar gyfer ymosodiad.
Ychwanegodd nad yw’n gweld “golau ar ben draw’r twnnel” ond ei fod yn ”gobeithio nad yw’r rhyfel yn parhau am flynyddoedd.”
'Dim dewis'
Ychwanegodd y gallai fod angen trafod anfon milwyr o Brydain i ymladd yn Wcráin os yw’r sefyllfa yn gwaethygu.
Wythnos ddiwethaf, fe arwyddodd Rwsia a Wcráin gytundebau ar wahân i geisio sicrhau bod grawn sydd wedi bod mewn storfeydd mewn porthladdoedd yn gallu cael ei allforio yn ddiogel. Doedd y naill wlad na’r llall yn barod i arwyddo cytundeb gyda’i gilydd.
Yn ôl Vitali Klitschko, ni ddylai ei wlad ystyried cyfaddawdu â llywodraeth Vladimir Putin.
“Rwy’n fwy na sicr bod byddin Rwsia am fynd mor bell ag y gallan nhw. Does dim dewis gyda ni. Mae’n rhaid i ni amddiffyn ein teuluoedd a’n mamwlad.
“Ydy ildio rhan o’n tiriogaeth ni yn gyfaddawd? Nac ydy. Mae gen i gwestiwn i bobl Prydain - fyddech chi’n barod i ildio tir i wlad ymosodol? Dydy hynny ddim yn ddatrysiad.
“Fe wnaethon ni ildio’n arfau niwclear ni ac roedd Rwsia yn un o’r gwledydd i roi gwarant i ni o ran diogelwch ein tiriogaeth. Dyna’r rheswm dydyn ni ddim yn ymddiried yn llywodraeth Rwsia.”
'Dewder'
Cyfaddefodd Klitschko, sydd yn 51 oed, bod ofn arno ym mis Mawrth pan oedd milwyr Rwsia ar gyrion Kyiv. Ond rhoddodd glod i bobl Wcráin am eu dewrder.
“Rwy’n falch o bobl yma. Ar un noson, welais i giw o filltir o wirfoddolwyr mewn rhes yn aros am arfau. Maen nhw’n barod i amddiffyn eu cartrefi a’u teuluoedd.
“Rydyn ni wedi synnu nifer o arbenigwyr ar ryfel. Roedd nifer yn dweud y byddai Wcráin yn cwympo mewn dyddiau neu wythnosau am ein bod ni’n wynebu un fyddin oedd y cryfaf y byd.
“Mae ganddyn nhw lawer mwy o danciau, awyrennau a milwyr, ond ry’n ni wedi synnu’r byd.”
Roedd dydd Sadwrn yn nodi 150 diwrnod o frwydro ers i fyddin Rwsia groesi ffin Wcráin ar 24 Chwefror. Ond dyw maer Kyiv ddim yn obeithiol y bydd diwedd i’r rhyfel yn y dyfodol agos:
“Â bod yn onest, dw’i ddim yn gweld golau ym mhen draw’r twnnel.
“Dw’i ddim yn arbenigwr ond dwi’n gwybod ei fod am fod yn gyfnod hir - misoedd. Ond dwi’n gobeithio na fydd e’n parhau am flynyddoedd. Ond does dim dewis gyda ni. Mae’n rhaid i ni ymladd ac amddiffyn ein teuluoedd.”
Pan holwyd Klitschko p’run ai oedd Wcráin wedi derbyn digon o gymorth milwrol gan Gymru a gwledydd y DU, dywedodd:
“Ry’n ni angen cefnogaeth filwrol. Nid ein teuluoedd ni yn unig ry’n ni’n amddiffyn. Nid ein plant ni yn unig ry’n ni’n amddiffyn. Ry’n ni’n amddiffyn eich plant a’ch teuluoedd chi. Pawb yn y Gorllewin.
“Rwy’n falch o allu derbyn arfau Prydeinig. Byddai anfon milwyr yma o Brydain i helpu amddiffyn Wcráin yn gytundeb rhwng dwy lywodraeth.
“Am nawr, ry’n ni’n ddigon cryf. Ry’n ni angen arfau yn unig. Ond os ydyn ni’n cyrraedd sefyllfa fwy difrifol, allwn ni drafod [anfon milwyr Prydeinig i Wcráin] bryd hynny.”
Bydd cyfweliad â Vitali Klitschko yn rhan o raglen arbennig ‘Wcráin: 150 diwrnod o ryfel’ i’w darlledu ddydd Llun am 20.00 ar S4C.