Newyddion S4C

Rhybudd am gyfyngu cyflenwad dŵr i Sir Benfro erbyn diwedd Awst

19/07/2022
Dwr tap golchi dwylo

Mae yna rybudd am gyflenwadau dŵr yn Sir Benfro yn sgil tywydd sych yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Dŵr Cymru wedi dweud os nad oes glaw sylweddol yn disgyn rhwng nawr a diwedd mis Awst yna fe allai "rhyw elfen o gyfyngiad" gael ei gyflwyno yn y sir yn ddiweddarach yn yr haf.

Ond maen nhw'n dweud na ddylai hyn gael "effaith ar unwaith" a bod cyflenwad dŵr yn y rhan fwyaf o Gymru mewn sefyllfa dda.

Daw hyn yn dilyn dau ddiwrnod o dywydd cynnes iawn yng Nghymru, gyda rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd am dywydd poeth mewn grym ddydd Llun a dydd Mawrth.

Dywed Dŵr Cymru fod y galw am ddŵr wedi cynyddu'n sylweddol yn sgil y tywydd poeth gan olygu ei bod yn "her" iddyn nhw gael y dŵr drwy'r pibellau'n ddigon cyflym.

Mae Dŵr Cymru wedi gorfod ymateb i'r cynnydd mewn galw drwy "weithio bob awr i sicrhau fod gweithfeydd trin dŵr" yn gallu ymdopi â'r galw.

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn cynyddu eu gwaith i atgyweirio tyllau mewn pibellau.

Mae'r cwmni hefyd yn annog y cyhoeddi i ddilyn cynghorion penodol gan gynnwys diffodd y tap er mwyn osgoi gwastraffu dŵr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.