Newidiadau i alluogi cyplau i briodi ble bynnag maen nhw eisiau

Mae'n bosib y gall cyplau briodi ar draeth, ar gychod neu yn eu gardd yn y dyfodol wrth i newidiadau i'r gyfraith priodasau cael eu hystyried.
Ar hyn o bryd mae rhaid i gyplau ddewis rhwng priodas grefyddol neu sifil, sydd angen eu cynnal mewn adeiladu sydd wedi'u cofrestru.
Ond mae Comisiwn y Gyfraith, sydd yn ymgynghori gyda'r llywodraeth ar newidiadau yn y gyfraith, yn awgrymu cael gwared â'r "cyfyngiadau diangen."
Os daw i rym dyma fydd y newid mwyaf i reolau priodasau ers yr 19eg ganrif gan alluogi cyplau i briodi ble bynnag maen nhw eisiau.
Darllenwch fwy yma.