Newyddion S4C

Ysgrifennydd Cymru yn trin pob dydd 'fel ei un olaf' yn y swydd

18/07/2022
Syr Robert Buckland

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod yn trin pob diwrnod fel ei un “olaf” yn ei swydd.

Mewn cyfweliad ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun, roedd Syr Robert Buckland yn cydnabod fod ei ddyfodol gwleidyddol yn nwylo’r prif weinidog newydd pan fydd ef neu hi yn dechrau eu swydd fis Medi.

Fe gafodd Syr Robert ei benodi i rôl Ysgrifennydd Cymru bythefnos yn ôl wedi i Simon Hart ymddiswyddo o’r cabinet gan alw ar Boris Johnson i gamu o’r neilltu fel prif weinidog.

Roedd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder tan fis Medi 2021 pan gafodd y sac o gabinet Boris Johnson, ac yn ôl Robert Buckland roedd hi’n anodd iddo gael ei berswadio i ddychwelyd i’r rôl i ddechrau:

“Y diwrnod cyn i mi gael fy mhenodi, pe bai wedi gofyn i mi, fyddwn i wedi gwrthod gwasanaethu oherwydd roeddwn wedi dod i’r casgliad fod yr amser wedi dod iddo ymddiswyddo.

“Dim ond ar ôl ei benderfyniad i ymddiswyddo y gwnaeth e siarad â mi ac fe ddwedais y byddem yn dychwelyd a gwasanaethu’r wlad ac rwyf wrth fy modd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dyma o le ydw i, lle fues i’n gweithio am nifer o flynyddoedd ac rwyf yn teimlo fel fy mod wedi dod adref.”

Dywedodd ei fod yn “mwynhau” digwyddiadau fel y Sioe Frenhinol ac yn ei ddefnyddio i “hyrwyddo” cynnyrch Cymreig.

Mae hefyd am ddefnyddio’r swydd newydd er mwyn “sicrhau fod Cymru’n rhan o’r broses i gymryd penderfyniadau yn San Steffan a’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru rwyf am weithio arno i wneud yn siwr fod gennym berthynas broffesiynol sydd yn fuddiol i bobl Cymru”. 

Gyda’r ras i olynu Boris Johnson yn ei hanterth, mae Syr Robert yn cefnogi’r cyn-Ganghellor Rishi Sunak i ennill arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Mae’n mynd benben â’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss, y Gweinidog Masnach Penny Mordaunt, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Tramor Tom Tugendhat a’r cyn-Weinidog Codi’r Gwastad Kemi Badenoch.

Ychwanegodd Syr Robert: “Dwi’n meddwl fod Rishi yn rhan fawr o’r agenda uchelgeisiol i godi’r gwastad sydd wedi arwain at gytundebau tyfiant ymhob rhan o Gymru.

“Fy swydd i, a dwi’n meddwl y medraf i gyflawni hyn gyda fe, ein swydd ni ar y cyd yw i wthio am y cytundebau hynny ac i barhau â’r Gronfa Ffyniant a Rennir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.