Cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones wedi cael diagnosis o ddementia
Cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones wedi cael diagnosis o ddementia
Mae cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar.
Mewn erthygl i’r Times dywedodd ei fod yn teimlo fod ei fywyd “yn cwympo’n ddarnau.”
Dywedodd Jones, sy’n 41 oed, ei fod wedi cael diagnosis o Enseffalopathi Trawmatig Cronig (CTE) yn Rhagfyr 2021.
Fe enillodd Jones 75 o gapiau dros Gymru a thri i’r Llewod yn ei yrfa rhwng 2004 a 2014.
Roedd yn gapten ar ei wlad 33 o weithiau a phan enillodd Cymru y Gamp Lawn yn 2008.
Mae’r “gêm ishe newid”, yn ôl Lloyd Jones, sy’n fab i’r cyn-chwaraewr Peter Jones a gafodd ddiagnosis am ddementia cynnar oherwydd cyfergyd.
Yn dilyn cais am ail bost-mortem yn dilyn marwolaeth Mr Jones, fe ddaeth arbenigwr mewn anafiadau i'r pen mewn chwaraeon - o hyd i arwyddion o CTE yn ymennydd Peter Jones.
Dywedodd Lloyd Jones; “Fi’n credu bod hyn yn mynd i wneud pobl ailystyried pethe.
"Sai’n credu bod y rheolau wedi newid digon ar y foment.
“Fi’n gwybod bod nhw wedi newid y protocols o chwarae ar ôl incident ar y pitch.
"Ond dyw hwnna ddim yn ddigon achos fi’n credu mae’r ymennydd ishe at least mis i wella cyn bo’ ti’n ‘whare eto.
“Y gêm sy ishe newid.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans