Geraint Thomas yn colli amser ond yn dal yn drydydd yn Le Tour
16/07/2022
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dal ei afael ar y trydydd safle yn y Tour de France er iddo golli peth amser ar Tadej Pogacar yn yr ail safle yn gyffredinol.
Mae Thomas, enillodd y ras yn 2018, nawr yn 21 eiliad tu ôl y seiclwr o Slofenia.
Jonas Vingegaard o Ddenmarc sy’n dal yn y crys melyn ar ôl cymal 14 y ras ddydd Sadwrn.
Michael Matthews o Awstralia oedd yn fuddugol ar y cymal 192km o Saint-Ètienne i Mende.
Bydd cymal 15 y ras ddydd Sul yn 202.5km o hyd o Rodez i Carcassonne.
Llun: Twitter/Geraint Thomas