Rhybudd am greaduriaid estron sy’n dinistrio bywyd gwyllt afonydd yng ngogledd Cymru
16/07/2022Mae asiantaeth cadwraeth yng ngogledd Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus am gimwch yr afon Americanaidd sy’n dinistrio bywyd gwyllt cynhenid.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r cimychiaid yr afon yma yn lladd gwrthwynebwyr cynhenid, difrodi glannau afonydd ac yn dinistrio ardaloedd deor wyau pysgod.
Mae’r ymddiriedolaeth yn cynghori pawb i olchi eu hesgidiau, eu cŵn a glanhau eu cychod ac offer pysgota cyn gadael yr afonydd.
Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn cynghori pobl i’w difa’n garedig er mwyn atal nhw rhag lledaenu.
Darllenwch fwy yma.
Llun: YNGC