Newyddion S4C

Cyngor i bobl rhag cyffwrdd dŵr llyn yng Nghaerdydd

16/07/2022
Llyn Parc y Rhath

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl yng Nghaerdydd i beidio â nofio yn Llyn y Rhath oherwydd tyfiant algâu yn y dŵr.

Mae algâu glas gwyrdd wedi ymddangos yn nŵr y llyn sy'n gallu achosi cyfog a niwed i groen a llygaid.  

Mae yna berygl hefyd o adwaith alergedd a thrafferthion anadlu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd samplau o’r dŵr ac wedi rhybuddio pobl i beidio dod i gysylltiad â dŵr y llyn.

Mae’r llyn yn gyrchfan poblogaidd i bobl yng Nghaerdydd yn enwedig yn ystod y cyfnod o dywydd braf dros y penwythnos.

Llun: Cyngor Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.