Gweithiwr dyngarol o Brydain wedi marw tra'n garcharor yn nwyrain Wcráin

Mae gweithiwr dyngarol o Brydain a gafodd ei ddal yn wystl gan luoedd sy'n deyrngar i Rwsia yn Wcráin wedi marw.
Y gred yw bod Paul Urey wedi marw bump diwrnod yn ôl "yn sgil salwch", yn ôl gwybodaeth mae ei deulu wedi ei dderbyn gan y Swydda Dramor.
Fe gafodd Mr Urey ei ddal yng Ngweriniaeth Pobl Donetsk yn nwyrain Wcráin ym mis Ebrill ac fe gafodd ei gyhuddo o fod yn hurfilwr.
Dywedodd ei fam ei bod yn bryderus iawn amdano oherwydd ei fod yn byw gyda diabetes ac felly angen inswlin.
Dywedodd llefarydd ar ran prif weinidog y DU, Boris Johnson, bod "yr adroddiadau yn bryderus ac mae ein meddyliau ni gyda'i deulu a'i ffrindiau.
Darllenwch fwy yma.
Llun teulu