'Diwylliant cas a dirmygus' yn ystod cyfnod Boris Johnson fel prif weinidog

Mae Rhif 10 wedi cyfaddef fod yna "ddiwylliant cas a dirmygus" yn ystod cyfnod Boris Johnson fel prif weinidog y DU.
Wrth ymateb i raglen ddogfen gan ITV oedd yn edrych ar gyfnod ei arweinyddiaeth, dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Rhif 10, Guto Harri, fod Boris Johnson "wedi cymryd y bai am ymddygiad drwg eraill hefyd."
Dywedodd un cyn-weithiwr dienw bod yna "lawer mwy o bartïon" yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo na'r sawl a gafodd eu datgelu yn ystod sgandal Partygate.
Mae ffynhonell arall yn y rhaglen yn datgan "os yr oeddech chi'n fenyw, roedd yn eithaf anghyfforddus i weithio yno" ond ychwanegodd Guto Harri bod "y mwyafrif helaeth o swyddogion y wasg yn fenywod, ac oddeutu hanner y swyddfa breifat a'r rhan fwyaf o brif adrannau Rhif 10."
Wrth ymateb i'r rhaglen, dywedodd Guto Harri wrth ITV bod "Heddlu'r Met wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i'r partïon yn Rhif 10, gan roi dim ond un dirwy i'r prif weinidog. I raddau helaeth, mae o wedi cymryd y bai am ymddygiad drwg eraill, gan gynnwys rhai o'i wrthwynebwyr mwyaf ffyrnig."
Dywedodd Boris Johnson ei fod yn gadael y swydd o fod yn brif weinidog gyda balchder a'i "ben yn uchel."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rhif 10