Angen mwy o gefnogaeth ar fenywod ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar

Angen mwy o gefnogaeth ar fenywod ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar
Mae cyn-garcharor yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar fenywod ar ôl iddynt cael eu rhyddhau.
Roedd Eleri Cosslett yn gyfreithwraig a gwraig fusnes lwyddiannus, ond yn 2014 cafodd ei dedfrydu i chwe mlynedd o garchar am werthu cyffuriau a chaniatáu i’w cleientiaid ddefnyddio ei thai fel llefydd i dyfu cannabis.
I Eleri, roedd y profiad o fod yn y charchar yn un ffurfiannol, ond roedd gadael yn brofiad erchyll.
“Does dim darpariaeth ar gyfer swyddi da,” meddai.
“Y broblem yw pan wyt ti’n dod allan, does rili dim byd yna o gwbl. Mae ’na dderbyniaeth bod ni’n mynd i glanhau tai bach fel swydd, ond dwi ddim yn meddwl bod hwnna’n ateb o gwbl.”
Mae Eleri bellach yn rhedeg elusen o’r enw ‘Grow Inspires’, sy’n helpu menywod i addasu i fyd tu hwnt i’r carchar.
“Yr unig air alla’ i feddwl amdano yn Saesneg yw ‘nullification,’ ychwanegodd Eleri am ei phrofiadau o adael y carchar.
"O ti’n teimlo fel mai dyna oedd dy swydd di, bod yn garcharor, a bod popeth o ti wedi neud hyd hynny ddim yn bod dim mwy.”
Daw ei sylwadau wedi i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder amlinellu cynlluniau i godi canolfan arbennig yn Abertawe, a fydd yn rhoi cymorth i fenywod fel nad oes yn rhaid iddyn nhw fynd i garchar confensiynol.
Y bwriad yw helpu menywod a fyddai fel arall yn cael eu hanfon i’r carchar am flwyddyn neu lai.
Nid oes un carchar i fenywod yng Nghymru, sy’n golygu bod menywod fel Eleri yn gorfod mynd dros y ffin ar hyn o bryd.