Newyddion S4C

‘Ffordd hir i fynd’ cyn i bobl wrando ar neges Llafur, medd gweinidog cysgodol

13/07/2022

‘Ffordd hir i fynd’ cyn i bobl wrando ar neges Llafur, medd gweinidog cysgodol

Mae “ffordd hir i fynd” cyn i bobl wrando ar neges y blaid Lafur yn San Steffan, yn ôl un o weinidogion cysgodol y blaid.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS wrth Newyddion S4C fod “yr holl syrcas o arweinyddiaeth” y Ceidwadwyr yn gyfle i roi “argraff da o beth mae Keir Starmer yn gallu cynnig”.

Mae Nia Griffith wedi cynrychioli Llanelli yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2005 ac yn Weinidog Cysgodol ar gyfer Masnach Ryngwladol.

Mae Llafur yn parhau i fod mewn grym yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan ennill hanner y seddi yn 2021.

Ond yn 2019, fe gollodd y blaid chwech o seddi yng Nghymru i’r Ceidwadwyr.

‘Anodd iawn’

Dywedodd Nia Griffith fod y pandemig wedi bod yn her i arweinyddiaeth Syr Keir Starmer ers iddo olynu Jeremy Corbyn yn 2020.

“Wrth gwrs ar ôl y pandemig, mae wedi bod yn anodd iawn i cael y lle i sôn am beth ‘yn ni’n sefyll droso ac y ffaith yw nawr bydd cyfle i ‘neud hynny,” meddai.

“‘Dan ni wedi colli dau flynedd gyda’r pandemig, a ma’ pawb yn deall hynny ac rwy’n credu nawr bydd ‘na cyfle i ddangos beth ni’n gallu ‘neud.”

Gyda’r etholiad am arweinydd newydd y blaid Geidwadol yn ei hanterth, nid yw Nia Griffith yn credu fod unrhyw un o’r ymgeiswyr yn peri pryder i’r blaid Lafur cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

“Dwi ddim yn meddwl bod ‘na lot o dalent ganddyn nhw ac y ffaith yw mae pawb ohonyn nhw yn anghofio’n lân beth maen nhw wedi ‘neud yn ystod y 12 mlynedd diwetha’,” meddai.

“‘Na beth sy’n od iawn, maen nhw’n trio canslo mas ‘u cofnod nhw ac ail-‘neud eu hunain a dwi ddim yn meddwl bod hyn yn credible i fod yn onest.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.