Newyddion S4C

Y Blaid Lafur i alw pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y DU

Metro 12/07/2022
CC
NS4C

 Fe fydd y Blaid Lafur yn galw pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y DU mewn ymdrech i gael gwared â Boris Johnson fel Prif Weinidog. 

Daw hyn wedi i'r Blaid Geidwadol gyhoeddi ei hamserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd, gan ddatgelu y bydd Mr Johnson yn aros fel Prif Weinidog tan 5 Medi. 

Mae Llafur wedi galw ar Mr Johnson i gamu lawr a hynny ar ôl i bron i 60 o Aelodau Seneddol ymddiswyddo o'i lywodraeth wythnos ddiwethaf. 

Mae disgwyl i'r bleidlais cael ei chynnal ddydd Mercher. Fe allai etholiad cyffredinol gael ei alw os yw mwyafrif o ASau yn pleidleisio o blaid y cynnig. 

Ond bydd rhaid i nifer sylweddol o ASau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn y llywodraeth er mwyn i hyn ddigwydd.  

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.