Y ras i Rif 10: Sut mae'r Ceidwadwyr yn dewis arweinydd newydd?
Wrth i nifer o ymgeiswyr daflu eu henwau i'r het i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol, sut yn union mae'r broses o benderfynu pwy fydd yn ennill, a phryd bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ?
Erbyn hyn mae 10 o Geidwadwyr wedi datgan eu bod yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid, a phrif weinidog y wlad.
Y 10 sydd wedi datgan eu bwriad i ymgeisio yw Kemi Badenoch, Suella Braverman, Rehman Chishti, Jeremy Hunt, Sajid Javid, Penny Mordaunt, Rishi Sunak, Liz Truss, Tom Tugendhat a Nadhim Zahawi.
Camau cyntaf
Mae'r cam cyntaf eisoes wedi dechrau, gydag ASau Ceidwadol yn cyflwyno eu henwau.
Mae angen i bob ymgeisydd gael cefnogaeth swyddogol gan 20 aelod seneddol Ceidwadol yn ogystal â chynigydd ac eilydd.
Bydd angen i'r enwebiadau hyn gael eu hanfon i Gadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, erbyn 18:00 ddydd Mawrth.
Yn dilyn y cam yma, bydd y pleidleisio yn dechrau ymysg ASau Ceidwadol ddydd Mercher ar ôl Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Y disgwyl yw y bydd canlyniadau'n cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y prynhawn.
Wedi i'r canlyniadau gael eu cyfrif, bydd unrhyw ymgeisydd gyda llai na 30 pleidlais yn cael eu diystyru. Os ydy pob ymgeisydd yn ennill dros 30 pleidlais, bydd yr ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei ddiystyru.
Llai o ymgeiswyr, mwy o gefnogaeth
Gyda llai o ymgeiswyr yn y ras, bydd y ceffylau blaen yn ceisio ennill cefnogaeth yr ymgeiswyr a fu'n aflwyddiannus yn y rownd gyntaf, cyn y bleidlais nesaf ddydd Iau.
Yna, bydd yr ymgeiswyr sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn gadael y ras.
Wythnos o bleidleisio
Bydd y rowndiau nesaf o bleidleisio yn digwydd ar ddydd Iau 14 Gorffennaf, lle bydd yr ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei ddiystyru.
Bydd hyn yn digwydd hyd at ddiwrnod olaf y pleidleisio ar ddydd Iau 21 Gorffennaf.
Erbyn hynny mae disgwyl y bydd dau ymgeisydd ar ôl.
Y cam olaf
Wedi i'r ddau ymgeisydd olaf gael eu dewis, bydd cyfres o gyfarfodydd yn cymryd lle yng nghanolfannau rhanbarthol y Ceidwadwyr ar hyd a lled y wlad er mwyn i aelodau'r blaid holi'r ymgeiswyr.
Cafodd rhain eu cynnal mewn lleoliadau oedd yn cynnwys Belfast, Efrog, Darlington, Nottingham a Chaerdydd yn 2019.
Mae disgwyl canlyniad pleidlais yr aelodaeth erbyn diwedd mis Awst.
Bydd enillydd y gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun 5 Medi.