Newyddion S4C

Cynllun i atal wiwerod llwyd rhag cenhedlu

Gwiwer

Mae ymchwilwyr yn dweud bod cynllun i leihau'r niferoedd o wiwerod llwyd trwy ddefnyddio cyffuriau atal cenhedlu yn dangos "canlyniadau addawol."

Cafodd wiwerod llwyd eu cyflwyno i'r DU yn y 19eg ganrif ond maent bellach yn cael ei ystyried fel bygythiad i wiwerod coch.

Mae wiwerod llwyd hefyd yn achosi difrod i goetiroedd.

O achos hyn, mae'r UK Squirrel Accord (UKSA) a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (Apha) wedi dyfeisio cynllun er mwyn ceisio lleihau'r niferoedd o wiwerod llwyd. 

Trwy ddefnyddio gorsafoedd bwydo arbennig, mae modd dosbarthu'r cyffuriau atal cenhedlu i wiwerod llwyd yn unig, gan reoli'r boblogaeth. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.