Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe
10/07/2022
Heddlu.
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Fabian yn Abertawe ddydd Sadwrn.
Dywedodd y llu fod dyn 38 oed a menyw 39 oed wedi eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 14.30.
Bu'n rhaid cau'r ffordd ddeuol i mewn i'r ddinas am chwe awr.
Mae seiclwr 16 oed yn yr ysbyty yn dioddef o anafiadau difrifol.
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i gysylltu â nhw.