Arlywydd a phrif weinidog Sri Lanka yn ymddiswyddo

Mae arlywydd a phrif weinidog Sri Lanka wedi ymddiswyddo yn dilyn protestiadau dwys yn y wlad dros y dyddiau diwethaf.
Cafodd tŷ preifat y Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe ei osod ar dân ac roedd miloedd o brotestwyr wedi meddiannu tŷ swyddogol Arlywydd Gotabaya Rajapaksa yn y brifddinas Columbo.
Yn ôl adroddiadau roedd y ddau wedi ffoi o’r adeiladau wrth i brotestiadau am gyflwr economaidd y wlad ddwysau.
Cyhoeddodd yr Arlywydd yn hwyrach ddydd Sadwrn ei fwriad i gamu i lawr ddydd Mercher yn dilyn y protestiadau.
Roedd y protestwyr wedi hyrddio trwy rwystrau’r heddlu ac wedi galw ar yr arlywydd i ymddiswyddo.
Roedd yr heddlu wedi saethu i’r awyr ond wedi methu rhwystro’r protestwyr.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/SriLankaTweet