Pêl droed: Sepp Blatter a Michel Platini yn ddieuog o dwyll gwerth £1.7m
Pêl droed: Sepp Blatter a Michel Platini yn ddieuog o dwyll gwerth £1.7m
Mae cyn Arlywydd ac is-arlywydd FIFA Sepp Blatter a Michel Platini wedi eu cael yn ddieuog o dwyll yn dilyn achos llys.
Daeth Llys Troseddol Ffederal y Swistir i'r casgliad bod y ddau yn ddieuog yn dilyn achos ddechreuodd ym mis Tachwedd 2020.
Roedd y ddau wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le yn sgil taliad o £1.7m gan Blatter i Platini yn 2011 - taliad am waith ymgynghorol Platini i FIFA.
Cafodd Mr Blatter 85, ac Arlywydd UEFA, Mr Platini, 67 eu gwahardd o bêl-droed yn 2015, ond yn dilyn canlyniad yr achos mae'n bosib y gall y ddau ddychwelyd i'r byd pêl-droed.
Dywedodd yr Athro Carwyn Jones, sydd yn darlithio moeseg chwaraeon ym mhrifysgol Met Caerdydd wrth Newyddion S4C fod yr achos wedi niweidio enw da FIFA:
"Os bydd 'na ddyfodol i'r naill neu'r llall yn y byd pêl-droed ar ôl hyn, dwi ddim yn siŵr.
"Ond bydd pobl dal yn poeni tipyn bach am beth sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod y deg, pymtheg mlynedd diwethaf gyda FIFA."
'Achub enw da'
Mae'r ymchwiliad a'r honiadau yn erbyn y ddau wedi bod yn gysgod dros FIFA am y saith mlynedd diwethaf, wedi i saith swyddog FIFA gael eu harestio am lwgr-fasnachu a gwyngalchu arian yn 2015.
Ers hynny mae ymchwiliadau wedi bod i'r broses o sut y rhoddwyd cystadlaethau Cwpan y Byd i Rwsia yn 2018 a Qatar yn 2022 hefyd.
Credai'r Athro Carwyn Jones bod hyn wedi arwain at gefnogwyr pêl-droed yn colli hyder yn FIFA:
"Dwi'n meddwl bod angen newid sylweddol yn FIFA er mwyn ceisio ennill ymddiriedolaeth y cefnogwyr a'r chwaraewyr yn ôl.
"Mae yna lot o waith dal i wneud i drial achub enw da FIFA a phêl-droed yn gyffredinol. Mae'r digwyddiadau wedi mynd yn ôl yn bell iawn a dyw e ddim wedi gwneud unrhyw ddaioni bod y peth yma wedi bod ar ben Fifa am gyfnod mor hir."
Llun: Wikimedia Commons