Anwen Butten wedi'i henwi fel capten Tîm Cymru am Gemau'r Gymanwlad
Mae'r chwaraewr bowliau Anwen Butten wedi ei chadarnhau fel capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad eleni.
Anwen yw un o'r aelodau mwyaf profiadol yn nhîm Cymru, ac fe fydd y gystadleuaeth yn Birmingham y chweched tro iddi gynrychioli ei gwlad.
Bu Anwen yn cynrychioli Cymru ymhob Gemau'r Gymanwlad ers 2002, gan ennill dwy fedal yn ystod ei gyrfa.
Dechreuodd chwarae bowliau yn 13 oed ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei mam, a oedd yn chwaraewr proffesiynol.
Wrth ddathlu ei phenodiad, dywedodd Anwen ei fod yn "fraint" i gael arwain Cymru.
"Fel athletwyr rydych chi'n paratoi eich hunain i gystadlu a ffocysu ar eich perfformiad," meddai.
"Ond y gwirionedd yw, mae'r amgylchedd a'r tîm o'ch cwmpas yn gwneud gymaint o wahaniaeth."
"Dwi'n gobeithio y gallai defnyddio fy mhrofiad i gefnogi'r athletwyr sydd yn cystadlu yn eu Gemau cyntaf, ond hefyd i ysbrydoli'r tîm cyfan."