Prif weinidogion y gorffennol: Ble maen nhw nawr?
Wedi i Boris Johnson gyhoeddi ei fod yn camu i lawr fel prif weinidog unwaith y bydd olynydd yn cael ei ddewis, fe fydd yn wynebu bywyd tra gwahanol unwaith y bydd wedi gadael 10 Downing Street.
Pa lwybrau mae cyn-Brif Weinidogion diweddar Prydain wedi eu dilyn ar ôl gadael y swydd?
Tony Blair
Am 10 mlynedd roedd Tony Blair yn brif weinidog ar Brydain, ac yn ystod y cyfnod hwn fe gefnogodd ddatganoli i Gymru a'r Alban, ac ymyrryd yn filwrol yn Kosovo, Sierra Leone ac Irac.
Ar ôl ymddiswyddo yn 2007 cafodd ei benodi fel Cennad y Dwyrain Canon i'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, yr Unol Daleithiau a Rwsia.
Fel rhan o'i rôl cyhoeddodd gynllun newydd i geisio sicrhau heddwch ym Mhalestina. Wedi wyth mlynedd yn y swydd fe ymddiswyddodd.
Ym mis Tachwedd 2007 lansiodd Blair Sefydliad Chwaraeon Tony Blair, gyda'r nod o gynyddu cyfraniad plant mewn gweithgareddau chwaraeon, yn enwedig yng ngogledd Lloegr.
Lansiodd Sefydliad Ffydd Tony Blair chwe mis yn ddiweddarach, oedd yn annog crefyddau gwahanol i hybu parch a dealltwriaeth, yn ogystal â gweithio tuag at daclo tlodi.
Fe wnaeth hefyd ymuno â banc JP Morgan Chase mewn rôl "uwch ymgynghorol" ac fe weithiodd fel ymgynghorydd i wasanaethau Ariannol Zurich ar newid hinsawdd.
Gordon Brown
Yn dilyn ymddiswyddiad Tony Blair, Gordon Brown gamodd i'w esgidiau cyn iddo ymddiswyddo ei hun yn 2010.
Wedi iddo gamu i lawr, fe arhosodd ym myd gwleidyddiaeth fel meinciwr cefn gan barhau i gynrychioli etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath.
Chwaraeodd rôl flaenllaw yn refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, gan ymgyrchu dros achos yr Alban i aros yn y Deyrnas Unedig.
Wrth ymgymryd â'i gyfrifoldebau fel AS, ysgrifennodd lyfr 'Beyond the Crash', oedd yn trafod yr argyfwng ariannol.
Cafodd ei benodi fel Cennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Ryngwladol gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon.
Roedd hefyd yn gadeirydd y Comisiwn Rhyngwladol ar Ariannu Cyfleoedd Byd-eang dros Addysg.
David Cameron
Y ddadl dros Brexit oedd y prif bwnc trafod yn ystod cyfnod David Cameron fel prif weinidog, ac fe arweiniodd y ddadl honno at ei ymddiswyddiad ym mis Mehefin 2016.
Camodd i ffwrdd o fyd gwleidyddiaeth gan ymgymryd â'r rôl o fod yn gadeirydd ar y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn Hydref 2016.
Dri mis yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn llywydd Ymchwil Alzheimers y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddodd hunangofiant o'r enw 'For the Record', lle bu'n trafod yr heriau oedd wedi eu hwynebu wrth geisio trawsnewid yr economi, moderneiddio'r blaid Geidwadol a heriau refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Theresa May
Fel yr ail fenyw i fod yn brif weinidog ar Brydain, arhosodd Theresa May yn Rhif 10 am dair blynedd, cyn i Boris Johnson ddod i rym.
Wedi hynny fe arhosodd ar y meinciau cefn fel AS Maidenhead gan gael ei hail-ethol fel aelod seneddol yn etholiad cyffredinol 2019.
Ym mis Mai 2020, fe feirniadodd Dominic Cummings am dorri rheolau'r cyfnod clo trwy yrru i Barnard Castle.
Cafodd ei hystyried am swydd Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, pan fydd Jens Stoltenberg yn ymddeol yn 2023, a disgrifiwyd hi fel yr "ymgeisydd perffaith" gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace.
Yn sgil adroddiad Sue Gray i bartïon yn ystod y cyfnod clo, beirniadodd May Boris Johnson gan ddweud "naill ai nad oedd fy ffrind gwir anrhydeddus heb ddarllen y rheolau neu nid oedd yn deall beth yr oeddynt yn ei olygu, neu nid oedd yn meddwl bod y rheolau yn gymwys i Rif 10."
Mae hi'n parhau ar y meinciau cefn i'r Ceidwadwyr.
Boris Johnson
Ar ôl cyfnod hynod gythryblus iddo'n wleidyddol, ac yn dilyn degau o ymddiswyddiadau gan weinidogion ac is-weinidogion yn ei lywodraeth, ymddiswyddodd Boris Johnson ar ddydd Iau 7 Gorffennaf.
Ond beth fydd nesaf i Boris Johnson? Cyn ei yrfa wleidyddol, roedd gan Johnson gyrfa ym myd newyddiaduraeth gyda'r Times a'r Daily Telegraph.
Yn 1994, cafodd swydd fel colofnydd gwleidyddol ac fe enillodd wobr Sylwebydd y Flwyddyn yng ngwobrau 'What the Papers Say'.
Cafodd ei benodi'n olygydd ar The Spectator yn 1999 a chynyddodd cylchrediad y papur o 10%.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau gan gynnwys llyfr am hanes Winston Churchill a nofel ffuglen o'r enw 'The 72 virgins'.
Cymerodd ei gam gyntaf i wleidyddiaeth yn 1999 wrth gael ei ethol fel AS dros Henley, cyn iddo gael ei ethol fel Maer Llundain yn 2007.
Wedi hynny, dychwelodd i San Steffan fel AS cyn cael ei benodi fel Ysgrifennydd Tramor ac yna dod yn brif weinidog.
Gyda'i gyfnod fel prif weinidog ar fin dod i ben, does dim modd dyfalu beth fydd dyfodol y cymeriad dadleuol a lliwgar yma sydd wedi hollti barn yn ystod ei gyfnod yn San Steffan.