Un newid i dîm rygbi Cymru cyn ail brawf taith De Affrica

07/07/2022
S4C

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi un newid i dîm rygbi Cymru cyn ail brawf eu taith yn Ne Affrica.

Fe fydd Alex Cuthbert yn dod i mewn ar yr asgell.

Roedd torcalon i Gymru benwythnos diwethaf ar ôl colli yn yr eiliadau olaf yn Pretoria o 32-29.

Fe fydd hi'n gêm nodedig i George North wrth iddo gyrraedd record Stephen Jones fel cefnwr rhyngwladol Cymru gyda'r nifer uchaf o gapiau erioed - 104 ohonynt.

Mae Alun Wyn Jones ar y fainc unwaith eto ar gyfer yr ail brawf, gyda Dan Biggar yn gapten ar ei wlad.

Tîm

15. Liam Williams (Rygbi Caerdydd – 79 cap); 14. Louis Rees-Zammit (Rygbi Caerlyr – 17 cap); 13. George North (Gweilch – 103 cap); 12. Nick Tompkins (Saracens – 21 cap); 11. Alex Cuthbert (Gweilch – 51 cap); 10. Dan Biggar (Northampton Saints – 101 cap), capten; 9. Kieran Hardy (Scarlets – 12 cap); 1. Gareth Thomas (Gweilch – 11 cap); 2. Ryan Elias (Scarlets – 28 cap); 3. Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd – 39 cap); 4. Will Rowlands (Dreigiau – 19 cap); 5. Adam Beard (Gweilch – 35 cap); 6. Dan Lydiate (Gweilch – 66 cap); 7. Tommy Reffell (Teigrod Caerlyr – 1 cap); 8. Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd – 90 caps)

Eilyddion

16. Dewi Lake (Gweilch – 6 cap); 17. Wyn Jones (Scarlets – 43 cap); 18. Sam Wainwright (Saracens – heb gap); 19. Alun Wyn Jones (Gweilch – 151 cap); 20. Josh Navidi (Rygbi Caerdydd – 31 cap); 21. Tomos Williams (Rygbi Caerdydd – 34 cap); 22. Gareth Anscombe (Gweilch – 31 cap); 23. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 40 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.