Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun taliadau newydd i ffermwyr
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun taliadau newydd i ffermwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer cynllun taliadau newydd i ffermwyr.
Fel rhan o'r cynllun, bydd y llywodraeth yn amlinellu camau i gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, gwella bioamrywiaeth a chryfhau’r economi wledig.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Yn ogystal, bydd taliad sylfaenol yn cael ei wneud i ffermwyr am ymgymryd â chyfres o Gamau Gweithredu Cyffredinol y gall ffermydd ledled Cymru eu cymryd, a mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth.
Bydd y camau gweithredu yn cynnig cymorth i ffermwyr reoli a gwella cynefinoedd ar draws o leiaf 10% o'r fferm, a chydweithio ar draws dalgylchoedd i wella ansawdd dŵr.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â ffermwyr o bob rhan o Gymru i ddeall sut y gallai'r camau gweithredu weithio ar eu ffermydd.
Ni fydd penderfyniad ar y cynllun terfynol tan y bydd ymgynghoriad pellach ar y cynigion a'r dadansoddiad economaidd wedi'u cyflwyno yn 2023.
'Cydnabod pwysigrwydd ffermwyr'
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, eu bod nhw'n "lled groesawu y datganiad yma oherwydd mae o 'di ymatab i llawar iawn o'r petha 'da ni fel undeb NFU Cymru wedi ei ddweud, yn bennaf, bod o'n cydnabod pwysigrwydd ffermwyr i'r gymuned wledig".
Er hyn, ychwanegodd Aled Jones bod yna un elfen o fewn y ddogfen sy'n achosi ychydig bach o bryder a hynny ydi bwriad y llywodraeth i weld mwy o dir yn cael ei droi tuag at blannu coed.
"Ma tyfu coed, popeth yn iawn, ond bod nhw'r coed cywir yn y man cywir cyn belled â bod o ddim yn amharu ar ein gallu i gynhyrchu bwyd.
"Y neges sylfaenol ydi fydd pob un ffarmwr sydd yng Nghymru, boed o yn feddiant tir, tenantiaid neu barterniaeth gwahanol, fydd pob un busnes felly yn gallu cael mynediad i fewn i'r cynllun yma."