Sweden a'r Ffindir yn cael cynnig ffurfiol i ymuno gyda NATO

Mewn uwchgynhadledd ym Madrid ddydd Mercher mae Sweden a'r Ffindir wedi cael cynnig ffurfiol i ymuno gyda chynghreiriaid milwrol NATO.
Byddai'r fath gam yn dod â blynyddoedd maith o niwtraliaeth y ddwy wlad i ben, ac mae'r cynnig yn dod yn wyneb ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin.
Mae Sweden wedi bod yn wlad niwtral ers dros 200 o flynyddoedd ac fe fydd y penderfyniad yn sicr o godi gwrychyn Vladimir Putin a'i lywodraeth yn y Kremlin.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd arweinwyr NATO bod y gynghrair hefyd yn ystyried Rwsia fel y "bygythiad mwaf a'r un mwyaf uniongyrchiol i ddiogelwch ei haelodau".
Darllenwch ragor yma.