Brechlynnau Covid-19 'wedi achub 20 miliwn o fywydau'
Mae brechlyn Covid-19 wedi achub o gwmpas 20 miliwn o fywydau yn y flwyddyn gyntaf o'r rhaglen frechu, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Goleg Imperial Llundain.
Mae'r ymchwil wedi dod i'r casgliad bod 19.8 miliwn o fywydau wedi eu hachub mewn 185 o wledydd ers dechrau'r rhaglen frechu, sy'n ostyngiad mewn marwolaethau byd-eang o 63%.
Er hyn, mae'r adroddiad yn pwysleisio bod mynediad annigonol i'r brechlyn mewn gwledydd incwm isel wedi lleihau effaith y rhaglen frechu yn y gwledydd hyn, gan bwysleisio bod angen cydraddoldeb brechu yn rhyngwladol.
Fe gafodd y brechlyn Covid-19 cyntaf tu hwnt i dreialon clinigol ei roi ar 8 Rhagfyr 2020.
Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd amcangyfrif bod 55.9% o boblogaeth y byd wedi derbyn o leiaf un dos, 45.5% wedi derbyn dau a 4.3% wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu.
Fodd bynnag, mae'r ymchwil hefyd yn nodi y gallai 599,300 o fywydau ychwanegol fod wedi cael eu hachub pe bai pob gwlad wedi gallu cyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o frechu 40% o'u poblogaeth.