Newyddion S4C

Derbyn Wcráin a Moldofa fel ymgeiswyr i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd

Sky News 24/06/2022
Undeb Ewropiaidd

Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi derbyn Wcráin a Moldofa fel ymgeiswyr i ymuno â'r bloc.

Er y byddai'r broses i sicrhau'r aelodaeth yn gallu cymryd blynyddoedd, dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, bod hwn yn "ddiwrnod da i Ewrop."

Fe wnaeth Arlywydd Wcráin, Voldymyr Zelenskyy, alw'r datblygiad fel "un o'r penderfyniadau pwysicaf" yn hanes Wcráin fel gwlad annibynnol. 

Mae'r penderfyniad yma yn sicr o gythruddo Rwsia, sydd wedi gwrthwynebu bwriad Wcráin i greu cysylltiadau agosach gyda'r Gorllewin. 

Mae Moldofa ymysg y gwledydd tlotaf yn Ewrop, a dywedodd ei Harlywydd, Maia Sandu, bod y cyfle i ymuno yn cynnig "gwell llwyddiant, cyfleoedd a threfn" i'r wlad sy'n ffinio ag Wcráin.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.