Haf o heriau i Heathrow wrth i staff British Airways fynd ar streic

Bydd maes awyr Heathrow yn wynebu haf o heriau wedi i staff British Airways bleidleisio o blaid mynd ar streic yn ystod gwyliau'r haf.
Fe wnaeth aelodau o undebau GMB ac Unite bleidleisio gyda'r mwyafrif llethol o blaid protestio yn erbyn cyflogau isel.
Mae hyn yn golygu y bydd mwy na 700 o weithwyr yn gallu mynd ar streic yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn.
Nid oes unrhyw ddyddiadau wedi eu cadarnhau eto oherwydd bod yr undebau wedi awgrymu eu bod nhw'n awyddus i roi amser i'r cwmni newid eu meddwl am y broblem.
Mae'r undebau yn ceisio gwrth-droi toriad cyflog o 10% a gafodd ei osod yn ystod y pandemic pan nid oedd hediadau rhyngwladol yn rhedeg.
Darllenwch fwy yma.