Dadorchuddio cofeb i ddathlu cyfraniad cenhedlaeth Windrush

Mae cofeb wedi ei dadorchuddio yn Llundain ddydd Mercher i ddathlu cyfraniad y genhedlaeth Windrush ddaeth i Brydain i chwilio am fywyd gwell ar ddechrau ail hanner y ganrif ddiwethaf.
Ar ôl cael eu gwahodd gan lywodraethau olynol i helpu i leddfu’r prinder gweithwyr yn y DU, penderfynodd llawer o bobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad ymfudo.
Cawsant eu galw yn genhedlaeth Windrush, sy’n deillio o 'HMT Empire Windrush', sef y llong a ddaeth ag un o'r grwpiau cyntaf i'r DU yn 1948.
Cafodd y gofeb ei dadorchuddio mewn seremoni emosiynol yng ngorsaf Waterloo.
Yr artist sydd yn gyfrifol am greu'r gofeb yw Basil Watson.
Darllenwch ragor yma.