Elw cymhwyso i Gwpan y Byd i gael ei fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad
Fe fydd holl elw o wobr ariannol FIFA am gyrraedd Cwpan y Byd - £4 miliwn - yn cael ei fuddsoddi i wella cyfleusterau llawr gwlad ar draws Cymru.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod hi'n bwysig i lwyddiant y tîm cenedlaethol gael ei deimlo ar lefel leol.
Ym mis Mai, fe gyhoeddodd CBDC gam cyntaf rhaglen ariannol newydd gyda buddsoddiad o £3.2 miliwn i 47 o brosiectau ledled y wlad.
Bydd mwy o fanylion am rowndiau nesaf ymgeisio am gyllid yn cael ei rannu gyda sefydliadau dros yr haf ac ar ddechrau'r hydref.
Dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney: “Wrth i ni anelu at greu cenedl bêl-droed flaenllaw, mae’n hanfodol bwysig bod CBDC a’i phartneriaid cyllido yn camu i’r adwy ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle mae cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn ei gynnig i ni.
"Mae cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad ledled Cymru yn arbennig o wael, a’n prif amcan strategol yw taclo hyn nawr."
Ychwanegodd Gareth Bale, Capten Cymru: “Rydyn ni mor falch bod cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn golygu y bydd clybiau llawr gwlad ledled Cymru hefyd yn elwa, wrth i CBDC gefnogi datblygiad cyfleusterau ysbrydoledig sy’n addas at y pwrpas.”