Newyddion S4C

Storm

Rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru ddydd Iau

NS4C 22/06/2022

Mae rhybudd melyn am stormydd wedi ei gyhoeddi i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Iau.

Mae'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 10:00 a 23:59.

Mae rhybuddion y gallai'r stormydd achosi llifogydd a difrod i adeiladau.

Fe allai gwasanaethau trafnidiaeth gael eu hoedi o ganlyniad i lifogydd neu daranau.

Gallai bŵer gael ei golli mewn rhai cartrefi a busnesau.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar 15 o siroedd Cymru:

  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Merthyr Tudful
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.