Newyddion S4C

Bwrdd iechyd yn ail-gyflwyno'r angen i wisgo mygydau mewn ysbytai

21/06/2022
S4C

Mae un o fyrddau iechyd Cymru wedi ail-gyflwyno'r angen i gleifion ag ymwelwyr i wisgo mygydau mewn ysbytai o achos y cynnydd diweddar mewn achosion o Covid-19.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cyhoeddi y bydd yr angen i wisgo mygydau'n cael ei gyflwyno'n syth.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y bwrdd iechyd: "Oherwydd y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 yn y gymuned, y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 ar wardiau a'r nifer o staff sy’n absennol oherwydd Covid-19, rydym yn gofyn i holl staff ac ymwelwyr ysbytai wisgo masgiau mewn ardaloedd clinigol, ar unwaith.

"Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad i leihau’r risg i’n cleifion a’n staff.

"Byddwn yn parhau i adolygu sefyllfa Covid-19 mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol, a byddwn yn diweddaru yn unol â hynny."

Cafodd yr angen i wisgo mygydau mewn lleoliadau iechyd ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mai ar ôl bod mewn grym ers dwy flynedd.

Fe wnaeth achosion o Covid-19 gynyddu bron i hanner miliwn ar draws y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf. 

Mae'r cynnydd yn debygol o gael ei achosi gan gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron gwreiddiol BA.1 a'r amrywiolyn newydd BA.4 a BA.5, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'n debyg bod cyfanswm o 1,415,600 o bobl yn y DU wedi cael y feirws yr wythnos diwethaf, sydd 43% yn uwch na'r wythnos flaenorol. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.