Gorsedd y Beirdd yn dathlu 230 o flynyddoedd ers ei sefydlu

Mae Golwg360 yn adrodd fod Gorsedd y Beirdd yn dathlu 230 o flynyddoedd mewn bodolaeth ddydd Mawrth.
Cafodd yr Orsedd ei sefydlu'n wreiddiol gan Iolo Morgannwg ar 21 Mehefin yn 1792, a hynny ar Fryn Briallu yn Llundain.
Wrth siarad gyda Golwg360, dywedodd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd, ei bod yn bwysig i gofio'r egwyddorion oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Orsedd dros 200 mlynedd yn ôl - sef brawdgarwch, cydraddoldeb a rhyddid.
Darllenwch y cyfweliad yn llawn yma.