Newyddion S4C

Ryan Giggs yn ymddiswyddo fel rheolwr Cymru

20/06/2022
Ryan Giggs
Huw Evans Agency

Mae Ryan Giggs wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru. 

Roedd Giggs wedi camu o'r swydd am gyfnod ar ôl cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au, ac o ymosod ar ddynes yn ei 20au ym Manceinion ym mis Tachwedd 2020.

Mae'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn ac mae disgwyl i'r achos llys gael ei gynnal ym mis Awst.

Mewn datganiad nos Lun dywedodd:  "Ar ôl llawer o ystyriaeth, rydw i'n rhoi'r gorau i fy swydd fel rheolwr tîm cenedlaethol dynion Cymru ar unwaith.

"Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael rheoli fy ngwlad, ond mae hi ond yn iawn fod CBDC, y staff hyfforddi a'r chwaraewyr yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gyda sicrwydd, eglurhad a heb ddyfalu ynghylch rôl eu prif hyfforddwr."

Mewn ymateb mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi nodi ei gwerthfawrogiad o waith Ryan Giggs am ei gyfnod fel rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru.

Dywedodd y Gymdeithas ei bod yn "gwerthfawrogi’r penderfyniad y mae wedi’i wneud, sydd er lles gorau pêl-droed Cymru.

"Mae ffocws llawn CBDC a Thîm Cenedlaethol Dynion Cymru ar Gwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni." 

Ym mis Ebrill 2021 fe gafodd Rob Page ei benodi fel rheolwr dros dro ac o dan ei arweinyddiaeth mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd, a hynny am y tro cyntaf ers 1958. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.