Boris Johnson yn gwella ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei drwyn
20/06/2022Mae'r prif weinidog Boris Johnson yn gwella ar ôl derbyn llawdriniaeth i'w drwyn.
Mae disgwyl iddo ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn y llawdriniaeth yn Llundain fore dydd Llun.
Fe fydd unrhyw benderfyniadau sylweddol yn cael eu gwneud am y 24 awr nesaf gan y dirprwy brif weinidog Dominic Raab.
Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street fod Mr Johnson wedi dychwelyd o'r ysbyty am 10:00 ar ôl derbyn y driniaeth ben bore am 06:00.
Darllenwch ragor yma.