Geraint Thomas yn ennill Tour de Suisse

19/06/2022
Geraint Thomas

Mae Geraint Thomas wedi ennill ras seiclo Tour de Suisse.

Thomas yw’r Cymro cyntaf a’r person cyntaf o Brydain i ennill y Tour de Suisse.

Fe ddaeth y Cymro yn ail ar y cymal olaf oedd yn ras unigol 25.6 cilomedr yn erbyn y cloc o amgylch Vaduz, prifddinas Liechtenstein.

Roedd Thomas dair eliaid tu ôl i’r enillydd Remco Evenepoel o Wlad Belg oedd yn golygu ei fod wedi adennill amser yn erbyn Sergio Higuita o Golombia oedd yn arwain y ras ar ôl y seithfed cymal ddydd Sadwrn.

Fe enillodd Thomas y ras un funud a 12 eiliad ar y blaen i Higuita yn y pendraw.

Ar ôl ei fuddugoliaeth dywedodd Thomas: “Mae’n hyfryd ennill ras mor fawr a chaled. Mae’r tywydd wedi bod yn gynnes iawn.”

Wrth edrych ymlaen at ei obeithion ef a’i dîm Ineos Grenadiers yn y Tour de France yng Ngorffennaf ychwanegodd: “Fel tîm rwy’n siŵr ein bod ni’n medru cystadlu.

"Mae gennym ni dîm cryf ac mae’n rhaid i ni gadw’n iach nawr a mynd yno a rhoi o’n gorau.”

Llun: Twitter/Ineos Grenadiers

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.