Llywodraeth y DU yn ymateb i ddeiseb 'Cyfraith Jade’

Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i ymgyrchwyr dros ddeiseb “Cyfraith Jade” sydd wedi ei sefydlu er cof am Jade Marsh, 27 oed a lofruddiwyd gan ei gŵr.
Cafodd Russell Marsh, 29 oed, ei garcharu am 25 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Ebrill am lofruddio’r fam i bedwar o blant yn Sir y Fflint.
Bu farw Jade Marsh yn Shotton ym mis Awst 2021.
Roedd y ddau yn briod ond roedd Jade Marsh wedi gadael ei gŵr wythnos cyn iddo ei lladd.
Roedd Russell Marsh wedi gwadu ei llofruddio ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor.
Er ei fod yn y carchar mae ganddo gyfrifoldebau rhiant dros y pedwar plentyn.
Mae hyn wedi cythruddo teulu Jade ac mae deiseb yn erbyn yr hawl yma wedi derbyn 120,000 o lofnodau.
Mae hyn wedi hawlio sylw Llywodraeth y DU sydd wedi cydnabod fod y rheolau presennol yn “feichus.”
Darllenwch fwy yma.