Newyddion S4C

Dame Kelly Holmes

Y Fonesig Kelly Holmes yn cyhoeddi ei bod hi’n hoyw

Mirror 19/06/2022

Mae’r Fonesig Kelly Holmes wedi cyhoeddi ei bod hi’n hoyw.

Dywedodd y cyn-athletwraig, 52 oed, wrth y Sunday Mirror ei bod hi “nawr yn rhydd i fod yn fi.”

Dywedodd ei bod hi wedi ofni cael ei chosbi pan yn swyddog yn y fyddin oherwydd roedd bod mewn partneriaeth o’r un rhyw ddim yn cael ei ganiatáu ar y pryd.

Roedd y Fonesig Holmes wedi ennill medalau aur yn yr 800M a’r 1,500m yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004.

Darllenwch fwy yma.

Llun:Facebook

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.