Newyddion S4C

Danny Dyer ar y Gymraeg: 'Am ******* iaith'

17/06/2022
Danny Dyer

Mae Danny Dyer wedi disgrifio'r Gymraeg fel iaith "anhygoel" gan ychwanegu "am ******* iaith".

Roedd yr actor, sydd ar hyn o bryd yn serennu yn EastEnders fel Mick Carter, yn siarad gyda gwasanaeth Hansh S4C.

Cafodd yr actor ei holi gan y cyflwynydd Mared Parry yng Ngwobrau Operâu Sebon Prydeinig 2022.

Nos Sul oedd y tro cyntaf i'r gwobrau gael eu cynnal ers 2019 o ganlyniad i'r pandemig.

Fel rhan o gêm ddyfalu sebon neu sebon, roedd yn rhaid i sêr yr operâu sebon ddyfalu pa enw Cymraeg oedd enw eu hopera sebon a pha un oedd yn fath o sebon.

Ymhlith y sêr eraill oedd yn bresennol ac yn cyfrannu roedd Jorgie Porter o Hollyoaks, Paige Sandhu o Emmerdale ac enillydd Britain's Got Talent eleni Axel Blake.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.