Newyddion S4C

Ethol cadeirydd benywaidd cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri

16/06/2022
S4C

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ethol dynes i fod yn Gadeirydd am y tro cyntaf.

Mae Annwen Hughes yn Gynghorydd dros Harlech a Llanbedr ar Gyngor Gwynedd, ac wedi bod yn aelod o'r Awdurdod ers pum mlynedd ac yn is-gadeirydd am ddwy o’r rhain.

Dywedodd Annwen Hughes: “Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i’m cyd-aelodau am fy’n ethol i’r swydd anrhydeddus hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i Wyn Ellis Jones am ei arweiniad proffesiynol ac ymroddgar fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Rwy’n edrych ymlaen i arwain yr Awdurdod yn y dyfodol agos, er mwyn gwarchod ein cymunedau arbennig a thirweddau unigryw er mwyn i genhedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”

Mae’r Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cynghorydd Gwynedd dros Waunfawr, hefyd ei ethol fel Is-Gadeirydd.

Cafodd chwe aelod newydd eu croesawu i’r cyfarfod, ac am y tro cyntaf erioed mae nifer hafal o ddynion a merched ar y pwyllgor.

Fe fydd yr aelodau ar yr Awdurdod am bum mlynedd nes yr etholiadau cyngor lleol nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod Emyr Williams: “Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r chwe aelod sydd wedi gadael y bwrdd yn ddiweddar am eu gwasanaeth i’r Awdurdod dros y tymor diwethaf, mae eu cyfraniadau wedi bod yn amhrisiadwy dros amser caled i ni gyd.

"Mae’r Parc Cenedlaethol yn dirwedd byw a mi fydd bwrdd yr Awdurdod yn wynebu heriau megis gwarchod bioamrywiaeth a rheoli ymwelwyr tra hefyd yn wynebu ffactorau eraill megis newid hinsawdd a chwyddiant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.