
Cwricwlwm newydd yn llawer 'mwy cynhwysfawr' medd Gweinidog Addysg

Cwricwlwm newydd yn llawer 'mwy cynhwysfawr' medd Gweinidog Addysg
Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, wedi dweud bod y cwricwlwm newydd ar gyfer addysg rhyw yn llawer 'mwy cynhwysfawr a chefnogol' i ddisgyblion o gymharu gyda'i brofiad pan roedd yn ddisgybl ei hun.
Ym mis Medi, bydd cwricwlwm addysg rhyw newydd yn cael ei lansio i addysgu pobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd am faterion LHDTC+, parch a phleser.
Mewn cyfweliad gyda Hansh Dim Sbin, dywedodd Jeremy Miles AS: “Mae’r cwricwlwm sydd gennym ni nawr wedi bod gyda ni ers degawdau.
“Mae e’n rhan o’r cwricwlwm bod ni’n sicrhau bod pobl ifanc yn ddinasyddion egwyddorol gan sicrhau addysg am gydberthynas a rhywioldeb mewn ffordd sydd yn gynhwysol wir yn bwysig”
“O’n safbwynt i fel dyn hoyw, mae e’n grêt achos pan o’n i yn yr ysgol odd dim byd fel hyn ar gael."
Daw ei sylwadau er gwaethaf pryderon gan athrawon a phobl ifanc.
Yn ôl rhai athrawon mae digon o bwysau arnyn nhw yn barod i ddysgu eu pynciau penodol, ac mae rhai yn credu byddai'n well cael arbenigwyr i gynnal gwersi addysg rhyw.
Dywedodd Anna Matthews, athrawes o Abertawe: “Mae gennym ni ddigon y mae’n rhaid i ni arbenigo ynddo’n barod, o ran ein haddysgu bob dydd heb ychwanegu addysg rhyw fanwl i’r gymysgedd.”
“Rwy’n meddwl y byddai’n fwy buddiol i staff a disgyblion gael gweithwyr proffesiynol i ddod i mewn i addysgu addysg rhyw gan y gallai o bosibl gael gwared ar y stigma a’r embaras sy’n ymwneud â’r pwnc ar hyn o bryd.”
Mae Cai Wynne-Williams, cyn-ddisgyblion trawsryweddol o Gaerdydd hefyd yn annog y llywodraeth i feddwl am gael pobl broffesiynol mewn i addysgu am addysg rhyw.
“Rydyn ni'n cael ein haddysgu gan ein hathrawon, pobl rydyn ni wedi'u hadnabod ers blynyddoedd, rydyn ni'n teimlo'n awkward o'u cwmpas," meddai.
"Pobl nad ydyn ni eisiau eu holi am ryw, ac nad ydyn nhw eisiau gwybod am ein bywydau rhywiol.”

“Rwy’n meddwl y dylai addysg rhyw gael ei haddysgu gan weithiwr proffesiynol sydd wedi mynd a chael addysg sy’n benodol i addysg rhyw. Rhywun sydd â gwybodaeth eang a chynhwysfawr am berthnasoedd o wahanol fathau a rhyw o wahanol fathau," ychwanegodd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg: “Dydw i ddim yn cytuno gyda hynny, oherwydd y ffordd mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei dysgu yw bod popeth ymhlith gyda’i gilydd.
“Ni eisiau sicrhau bod gennym ni arbenigedd ond hefyd adnoddau ac amser, a bod yr athrawon yn cael cefnogaeth fel bod nhw’n gallu rhoi hyder i ddysgwyr i wybod bod e’n ddiogel i drafod cwestiynau sy’n gallu bod yn sensitif a heriol hyd yn oed.”
Mae fwy o wybodaeth ar Instagram Hansh Dim Sbin.