Newyddion S4C

Streiciau trên: Pa wasanaethau fydd yn cael eu heffeithio?

15/06/2022
Trên / Gorsaf / Caerdydd Canolog / Llun Trafnidiaeth Cymru

Fe fydd streic yn cael ei chynnal gan weithwyr trên ar draws y wlad wythnos nesaf.

Mae aelodau undeb RMT yn streicio yn sgil anghydfod gyda Network Rail am gyflogau staff a diswyddiadau.

Fe fydd gweithwyr ar streic ar 21, 23 a 25 Mehefin.

Mae disgwyl bydd tarfu ar wasanaethau yn ystod y dyddiau cyn ac ar ôl y cyfnod o weithredu diwydiannol hefyd.

Ond sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru?

Fe fydd y rhan fwyaf o wasanaethau trên ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi eu hatal ar ddiwrnodau'r streic, er nad oes anghydfod uniongyrchol rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru.

Fe fydd gwasanaeth bob awr i'r naill gyfeiriad rhwng Radyr a Threherbert ac Aberdâr a Merthyr Tudful.

Bydd bws yn cludo pobl i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog o'r gorsafoedd hyn ac mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y gallai'r gwasanaethau hyn fod yn "brysur iawn".

Ni fydd gwasanaethau i Rymni, Coryton, Bae Caerdydd na Llinell y Ddinas gan mai Network Rail yn gyfrifol am y signalau.

Mae Grŵp Darparu'r Rheilffyrdd wedi galw ar arweinwyr undeb RMT i beidio â pharhau â'r streicio.

Ond mae'r undeb wedi galw am gyfarfod wyneb-yn-wyneb  gyda'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps, a'r Canghellor Rishi Sunak.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb nad oedd y trysorlys yn galluogi cyflogwyr i gytuno ar setliad newydd gyda'r undeb.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.