Newyddion S4C

Newid enw brech y mwncïod er mwyn 'lleihau stigma'

15/06/2022
Monkeypox

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu ailenwi brech y mwncïod, neu Monkeypox, "i leihau stigma" am yr haint.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y sefydliad (WHO), Dr Tedros Adhanom Ghebreyes, fod y corff yn gweithio â phartneriaid ar draws y byd i chwilio am enw newydd.

Ychwanegodd y byddai cyhoeddiad am yr enw newydd "cyn gynted â phosibl".

Fe ddaeth cadarnhad ddydd Mawrth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pumed achos o frech y mwncïod wedi'i ddarganfod yng Nghymru.

Y cyngor yng Nghymru yw i gysylltu â chlinig iechyd rhyw os oes brech yn ymddangos ac os yn dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â, neu sy'n debygol o fod â, brech y mwncïod yn y tair wythnos diwethaf.

Mae'r cyngor hefyd yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi teithio o orllewin neu ganolbarth Affrica yn ystod yr un cyfnod.

Fe aeth Dr Ghebreyes ymlaen i ddweud fod yr achosion o frech y mwncïod ar draws y byd yn "anghyffredin ac yn bryderus".

Dywedodd o ganlyniad y byddai pwyllgor argyfwng yn cael ei gynnal wythnos nesaf i drafod y camau nesaf i ymateb i'r clefyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.