Creu murlun o Gary Speed ger Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae murlun mawr o gyn-reolwr pêl-droed Cymru Gary Speed yn cael ei greu ar wal ger Stadiwm Dinas Caerdydd yn y brifddinas.
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect Unify, sydd yn ymgais i uno pobl gyda'u cymuned drwy bêl-droed.
Mae Unify wedi creu murluniau trawiadol yn barod yng Nghaerdydd, ac fe fydd y gwaith diweddaraf yn cael ei ddadorchuddio'n ddiweddarach yr wythnos hon.
Bu farw Gary Speed yn 42 oed yn 2011.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Unify
Working on something special @unifycreative_ 🏴⚽️ #TogetherStronger #Wales #Cymru pic.twitter.com/u3ryvkfRbq
— Shawqi (@ShawqiHasson) June 13, 2022