Tref yn Lloegr yn pleidleisio o blaid atal gwerthu tai newydd fel ail gartrefi

Mae pobl mewn tref yng ngogledd Lloegr wedi pleidleisio o blaid rhwystro tai newydd yn yr ardal rhag cael eu prynu fel tai haf.
Fe wnaeth 95% o drigolion Whitby yn Sir Efrog pleidleisio o blaid neilltuo unrhyw dai newydd yn yr ardal ar gyfer pobl leol.
Mae 28% o stoc tai Whitby yn cael eu defnyddio fel ail-dai ar hyn o bryd.
Yn ôl un cynghorydd lleol, cafodd 19 allan o 20 o dai a oedd yn rhan o ddatblygiad newydd yn y dref eu prynu fel tai haf yn ddiweddar.
Nid yw'r bleidlais yn un sydd gyda grym cyfreithiol iddi, ond mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y canlyniad yn dylanwadu ar bolisïau cynllunio Cyngor Tref Whitby a Chyngor Sir Scarborough.
Darllenwch fwy yma.
Llun: WikiCommons