Jonny Clayton yn colli yn rownd gynderfynol yr Uwch Gynghrair dartiau
13/06/2022
Mae Jonny Clayton wedi colli yn rownd gynderfynol yr Uwch Gynghrair dartiau.
Llwyddodd Joe Cullen i faeddu'r pencampwr presennol o Bontyberem, gan sicrhau ei le yn y rownd derfynol.
Llwyddodd Clayton i faeddu José de Sousa 11–5 i ennill y teitl yn 2021.
Ond roedd buddugoliaeth o 10-4 yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Cullen nos Lun.
Fe fydd Cullen nawr yn wynebu James Wade neu Michael van Gerwen yn y rownd derfynol.
Llun: PDC Darts